26,99 €
inkl. MwSt.
Versandkostenfrei*
Versandfertig in 1-2 Wochen
  • Broschiertes Buch

Mae cadw gwenyn yn ddiddordeb hynod ddiddorol a gwerth chweil gyda digonedd i'w ddysgu, ond i'r rhai sy'n dechrau cadw gwenyn o'r newydd, mae dod â phopeth ynghyd yn gallu bod yn anodd. Yn y llyfr hwn, bydd Lynfa Davies, NDB, yn eich tywys drwy flwyddyn o gadw gwenyn fesul mis. Bydd yn amlinellu'r hyn y dylech ei ddisgwyl bob mis, a'r prif dasgau angenrheidiol gyda'r nod o sicrhau eich bod chi gam o flaen eich gwenyn. Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sydd wedi dechrau cadw gwenyn ers ychydig flynyddoedd, a bydd yn eich helpu i ddeall yr hyn mae eich gwenyn yn ei wneud drwy…mehr

Produktbeschreibung
Mae cadw gwenyn yn ddiddordeb hynod ddiddorol a gwerth chweil gyda digonedd i'w ddysgu, ond i'r rhai sy'n dechrau cadw gwenyn o'r newydd, mae dod â phopeth ynghyd yn gallu bod yn anodd. Yn y llyfr hwn, bydd Lynfa Davies, NDB, yn eich tywys drwy flwyddyn o gadw gwenyn fesul mis. Bydd yn amlinellu'r hyn y dylech ei ddisgwyl bob mis, a'r prif dasgau angenrheidiol gyda'r nod o sicrhau eich bod chi gam o flaen eich gwenyn. Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sydd wedi dechrau cadw gwenyn ers ychydig flynyddoedd, a bydd yn eich helpu i ddeall yr hyn mae eich gwenyn yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn a'r hyn sydd angen i chi ei wneud i'w rheoli. O archwiliadau hyd at fwydo a rheoli clefydau, bydd y canllaw hwn yn rhoi'r hyder i chi ofalu am eich gwenyn yn dda a'u cadw'n iach, ac efallai y byddant yn eich gwobrwyo gydag ychydig o fêl.
Hinweis: Dieser Artikel kann nur an eine deutsche Lieferadresse ausgeliefert werden.
Autorenporträt
Meistr mewn Gwenyna, NDB.Mae Lynfa'n cadw gwenyn gyda Rob, ei g¿r, ers 2005. Yn ystod y cyfnod hwn mae hi wedi gwneud nifer o swyddi gyda Chymdeithas Gwenynwyr Cymru (CGC) gan gynnwys bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol ac yn Ysgrifennydd Arholiadau. Ar hyn o bryd mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Dysgu a Datblygiad ac mae hi'n ymwneud â datblygu a chyflwyno cyrsiau a gweithdai i wenynwyr ledled Cymru.