Gallwch oresgyn ofnau, rheoli negyddiaeth a gwella'ch bywyd gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).Yn aml, fe all newid ymddangos yn dasg amhosib, ond bydd y canllaw ymarferol yma'n gymorth i chi ei weld mewn persbectif. Gyda dwy arbenigwraig yn eich arwain, byddwch yn dod i adnabod y meddyliau a'r mathau o ymddygiad sy'n eich dal chi'n ol, ac yn datblygu sgiliau i feddwl yn fwy cadarnhaol, ymddwyn yn fwy digynnwrf a theimlo'n well amdanoch chi'ch hun.Gan ddefnyddio'r un dulliau ag ymarferwyr CBT, mae'r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau ac arbrofion i archwilio a herio, straeon ac ymarferion i gynnig persbectif i chi, ac mae iddo fframwaith clir i'ch annog a'ch tywys. Bydd agwedd gyfeillgar a chefnogol yr awduron yn eich helpu i reoli'r adegau hynny pan fydd meddyliau ac ymddygiad negyddol yn ailgodi eu pen, ac i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarn.Mae CBT yn ymgorffori'r therapiau a'r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys ACT ac ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn mynd i'r afael yn benodol a thrafferthion fel diffyg cwsg ac iselder.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, B, BG, CY, CZ, D, DK, EW, E, FIN, F, GR, HR, H, IRL, I, LT, L, LR, M, NL, PL, P, R, S, SLO, SK ausgeliefert werden.