Erbyn hyn, mae llyfrau i blant yn ganolog i'r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan annatod o addysg pob plentyn. Ond prin yw'r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae'r gyfrol hon yn mynd i'r afael â'r tawelwch hwn yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau bod i lenyddiaeth plant arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol sylweddol. Rhoddir sylw i lyfrau a chylchgronau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn benodol, gan archwilio'r ffactorau a oedd yn cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifainc. Drwy ddehongli sut y dychmygid plant yn y gorffennol, mae'r gyfrol hon yn ein galluogi i ddeall nad sefydlog nac unffurf yw ystyr y termau 'plant' a 'phlentyndod' mewn unrhyw oes.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, D ausgeliefert werden.