Does dim ond un Lisa Wells. Cafodd Lisa ddiagnosis o ganser terfynol yn y coluddyn a'r afu yn Rhagfyr 2017. A hithau'n benderfynol o adael gwaddol o gariad i'w merched, ac wedi'i hysbrydoli gan gariad gydol oes at sgwennu, cyd-weithiodd Lisa a'r awdur llyfrau plant arobryn Michelle Robinson i greu Does Ond Un Fel Fi. Llythyr cariad i ferched Lisa ei hun yw'r gerdd dyner hon, wedi'i ddarlunio gan Tim Budgen, ond mae hefyd yn fynegiant o gryfder di-syfl cariad rhiant at blentyn, ac yn crynhoi neges oesol i bob teulu sy'n wynebu'r heriau o golli rhywun annwyl.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, B, BG, CY, CZ, D, DK, EW, E, FIN, F, GR, HR, H, IRL, I, LT, L, LR, M, NL, PL, P, R, S, SLO, SK ausgeliefert werden.