Dyma gyfrol sy'n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gwr a gafodd ei ddisgrifio fel un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe'i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda'r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na'i gariad tuag at fro ei febyd a'i diwylliant.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, D ausgeliefert werden.