Yn ôl ysgolheigion ffeministaidd mae tystiolaeth bendant ynglyn â'r ffordd y mae cyfraniad menywod i ddrama, theatr a pherfformiad yn aml iawn yn cael ei hepgor, ei 'ysgrifennu allan', ei osod ar yr ymylon yn ddiwylliannol a'i wneud yn anweledig. Ac mae'n ffaith nad oes fawr o astudiaeth o hanes y theatr yng Nghymru sydd naill ai'n cydnabod neu'n cynrychioli gwaith ysgrifennu menywod ar gyfer y theatr Gymraeg. Yn y cyd-destun hwn, mae'r gyfrol arloesol hon yn ymdrech i lenwi'r bylchau a chyfoethogi'r hanes trwy ddogfennu rhai o destunau cwmni theatr Y Gymraes sydd heb eu cyhoeddi, eu gosod yn fras yng nghyd-destun theatr yng Nghymru yn y 1990au, ac ystyried hefyd rai ymatebion i'r gwaith. Yn anorfod ac yn anad dim mae'r testunau a'r cyd-destun a roddir iddynt yn cyfeirio at y profiad diwylliannol o fod yn fenyw ac yn Gymraes.
Dieser Download kann aus rechtlichen Gründen nur mit Rechnungsadresse in A, B, BG, CY, CZ, D, DK, EW, E, FIN, F, GR, H, IRL, I, LT, L, LR, M, NL, PL, P, R, S, SLO, SK ausgeliefert werden.